Rhif y ddeiseb: P-05-907

Teitl y ddeiseb: Newid cyflymder pentre Cemaes i 30mya

Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i leihau'r cyfyngiad cyflymder ym mhentref Cemaes (ar ffordd yr A470 rhwng Machynlleth a Dolgellau) o 40mya i 30mya.  Galwn arnynt hefyd i ymestyn ardal y cyfyngiad fel ei fod yn cychwyn wrth arwydd  Cemaes wrth ddod i mewn i'r pentref o gyfeiriad Glantwymyn.

 


1.        Cefndir

Mae'r A470 yn brif gefnffordd sy'n rhedeg o Landudno yn y gogledd i gylchfan Coryton oddi ar yr M4 yn y de. Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru ac felly’n gyfrifol am bennu cyflymder yr A470. Mae map o'r rhwydwaith cefnffyrdd cyfan i’w weld yma. Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r rhan o’r A470 sy’n rhedeg drwy bentref Cemaes ym Mhowys.

Mae Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd (RSF) yn elusen yn y DU sy'n cefnogi’r gwaith o leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd, sydd wedi arwain at sefydlu'r Rhaglen Asesu Ffyrdd Ewropeaidd (EuroRAP). Mae'r RSF yn cyhoeddi adroddiadau EuroRAP Prydeinig blynyddol. Mae’r rhain yn cynnwys map risg sy'n rhoi asesiad o ddiogelwch ffyrdd Prydain. Mae'r map risg yn dangos y risg ystadegol y bydd damwain yn digwydd yn achosi marwolaeth neu anaf difrifol drwy gymharu amlder damweiniau ffordd sy'n arwain at farwolaeth ac anaf difrifol ar y traffyrdd a ffyrdd 'A'. Ceir pum sgôr risg, o ffyrdd risg isel, sef y rhai sy’n cael eu hystyried y mwyaf diogel, i ffyrdd risg uchel.

Dywedodd adroddiad 2014 ac adroddiad 2015 fod y rhan hon o'r A470 yn ffordd risg ganolig-uchel. Ers hynny, mae adroddiadau 2016, 2017, 2018 a 2019 wedi dweud bod y rhan hon o'r ffordd yn risg ganolig.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Pwyllgor dyddiedig 15 Hydref 2019, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, na fydd y rhan hon o’r A470 drwy bentref Cemaes yn cael ei chynnwys mewn Adolygiad Terfyn Cyflymder.

Mae gan Lywodraeth Cymru fap i ddangos y cynigion i wella diogelwch cefnffyrdd a ddaeth o’r Adolygiad Diogelwch Cefnffyrdd blaenorol, a ddechreuodd yn 2013. Mae'n dangos y gwnaed penderfyniad yn flaenorol i gadw'r cyflymder cyfredol o 40mya ar hyd y rhan hon o'r A470, gyda gwaith rhaglen arall wedi'i gynllunio i wella diogelwch y ffordd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru. Mae'r canllawiau yn gymwys i bob cefnffordd a ffordd sirol, ond nid i draffyrdd. O ran cyfyngiadau cyflymder mewn ardaloedd gwledig, mae’r canllawiau’n datgan:

Gellir defnyddio terfynau cyflymder o 40 a 50mya lle y bo’n briodol, ac yn gyffredinol dylid defnyddio terfyn cyflymder o 30mya mewn trefi a phentrefi gwledig. Fodd bynnag, dylai awdurdodau priffyrdd ystyried pob lleoliad fesul achos.

Mae Taflenni Cynghori Traffig yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer gweithredu rheoliadau a pholisïau traffig. Mae TAL 1/04 (PDF, 363KB) yn amlinellu’r cyngor ar derfynau cyflymder mewn pentrefi. Mae'n dweud y dylai pentref fod ag 20 neu fwy o dai, a bod o leiaf 600 metr o hyd.

Wrth benderfynu beth yw’r terfyn cyflymder priodol, anogir awdurdodau priffyrdd i ddefnyddio disgresiwn ac ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys: ysgolion, siopau, caffis a bwytai, banciau a swyddfeydd post, cartrefi preswyl a nyrsio, caeau chwarae a chyfleusterau chwaraeon.

3.     Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Er nad yw’n ymddangos bod y rhan benodol hon o’r A470 wedi’i chodi yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod pedair deiseb arall ynghylch adolygiadau terfyn cyflymder ers 2016.

Trafodwyd y tair deiseb a ganlyn gyda’i gilydd:

§  P-05-721 Deiseb terfyn cyflymder Penegoes;

§  P-05-767 Cefnffordd yr A487 trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig; a

§  P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

Roedd P-05-721 yn gofyn am ostwng y terfyn cyflymder drwy bentref Penegoes i 30mya. Roedd y bedwaredd deiseb,P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau, yn galw am ostwng y terfyn cyflymder i 20mya.

Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at y Gweinidog sawl gwaith wrth drafod y pedair deiseb hyn yn gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch Adolygiad Terfyn Cyflymder Llywodraeth Cymru. Mae ymatebion y Gweinidog yn gyffredinol yn nodi y bydd yn cymryd amser i gwblhau Adolygiad Terfyn Cyflymder ac y bydd angen casglu gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau am bob ffordd.

Mae’r Pwyllgor wedi cau’r pedair deiseb ar sail ymrwymiad gan y Gweinidog i ystyried barn y deisebau a thrigolion lleol yn ystod y broses Adolygiad Terfyn Cyflymder.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.